Cyfle i brofi detholiad o’r ffilmiau cryndo amgylchynol gorau sydd wedi’u henwebu ar gyfer Gwobrau Best of Earth 2025
Digwyddiad arbennig i ddathlu sinema cryndo amgylchynol trochol
Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiad arbennig iawn i brofi detholiad o’r ffilmiau cryndo amgylchynol (fulldome) gorau sydd wedi cael eu henwebu ar gyfer Gwobrau Best of Earth 2025. Dros ddwy sesiwn o sgriniadau, bydd hon yn daith hynod – drwy dirweddau rhyfeddol, ehangder y gofod a gweledigaeth artistig feiddgar.
Labordy CULTVR yw’r unig ganolfan yn y byd sy’n cyflwyno’r arlwy unigryw yma o ffilmiau cryndo amgylchynol cyn cynnal Seremoni Gwobrau Best of Earth ar 25 Mawrth 2025.
Os ydych am brofi’r holl ffilmiau, gallwch ddewis tocyn diwrnod cyfan NEU gallwch ddewis tocyn i sesiwn penodol – ar gyfer y detholiad o ffilmiau trochol sy’n tanio’ch diddordeb fwyaf.
Gwahoddiad i archwilio’r croestoriadau rhwng technoleg, celf a’r profiad dynol. Sesiwn o weithiau sy’n cynnig cipolwg cyfareddol o’r dyfodol – yn y byd go iawn a byd y dychymyg.
Best of Earth / Sinema 360º
GET TICKETS - £14.50 - £30

📅 15 Mawrth 2025
🎟 Tocyn Diwrnod Cyfan – £30 / £27.50 (gyda gostyngiadau)
🎟 Tocyn i Sesiwn Penodol – £16.50 / £14.50 (gyda gostyngiadau)
2-4pm: Tu Hwnt i Ddaear, Môr ac Awyr / Beyond Earth, Sea, and Sky (12+)
Sesiwn yn archwilio ac anturio drwy ryfeddodau naturiol y Ddaear, dirgelwch y cosmos a siwrne dynolryw i ddeall a diogelu ein planed.
Uyni: Volcanic Twilight & Milky Way (9min)
Black Holes: Unknown Horizons (31min) /
Sounds of the Ocean (25min)
The Voyage of Arka Kinari (39 min)
Exo-Cortex 3.0 (8min)
5-7pm: Archwilio Realitioedd Amgen / Exploring Alternate Realities (16+)
Gwahoddiad i archwilio’r croestoriadau rhwng technoleg, celf a’r profiad dynol. Sesiwn o weithiau sy’n cynnig cipolwg cyfareddol o’r dyfodol – yn y byd go iawn a byd y dychymyg.
Visual Eyes present “Alone” (13 min) /
XYZZY (41min)
I Saw The Future (6min)
I Want to leave this Earth behind (40min)
Bad Trip (8min)
Metaract (18 min)