Cyfle i brofi Seremoni Gwobrau Best of Earth Fulldome yn fyw yn Labordy CULTVR
Mae CULTVR yn falch i gyhoeddi ein bod yn cynnal digwyddiad ffrydio byw o Seremoni Gwobrau Best of Earth Fulldome– dathliad byd-eang o arloesedd a rhagoriaeth ym maes cynhyrchu ffilmiau cryndo amgylchynol (fulldome). Mae’r digwyddiad arbennig yma’n gyfle i fwynhau rhai o’r gweithiau gorau o wyliau ffilm cryndo amgylchynol mwyaf nodedig y byd. Bydd hefyd yn gyfle i ddathlu’r gelfyddyd a’r arloesedd technolegol sy’n diffinio’r cyfrwng trochol hynod yma.
Mae Seremoni Gwobrau Best of Earth Fulldome yn fenter ar y cyd rhwng rhai o wyliau amlycaf y diwydiant, gan gynnwys:
FullDome Festival (Jena, Yr Almaen) Dome Fest West (Los Angeles, UDA) Gŵyl FulldomeUK Gŵyl Dome Under (Melbourne, Awstralia) SAT Fest (Montréal, Canada) Fulldome Festival Brno (Brno, Tsiecia)
Mae tocynnau i’r Seremoni Wobrwyo ar gael AM DDIM YMA
Ble: Labordy CULTVR Pryd: 25 Mawrth 2025 Amser: 20:00 (GMT) – bydd y seremoni’n para am tua 1 awr
Bydd y digwyddiad yn cael ei ffrydio’n fyw. Gallwch ymuno arlein am 20:00 (GMT) yma: https://www.bestof.earth/
P’un a ydych yn ffan o gelfyddydau trochol, yn weithiwr proffesiynol yn y diwydiant neu’n chwilfrydig am botensial sinema cryndo amgylchynol, mae’r digwyddiad yma’n gyfle gwych i ddysgu mwy am y gorau sydd gan y cyfrwng cyffrous yma i’w gynnig.
SEREMONI GWOBRAU ‘BEST OF EARTH FULLDOME’
TOCYNNAU
Cyfle i brofi Seremoni Gwobrau Best of Earth Fulldome yn fyw yn Labordy CULTVR
Mae CULTVR yn falch i gyhoeddi ein bod yn cynnal digwyddiad ffrydio byw o Seremoni Gwobrau Best of Earth Fulldome – dathliad byd-eang o arloesedd a rhagoriaeth ym maes cynhyrchu ffilmiau cryndo amgylchynol (fulldome). Mae’r digwyddiad arbennig yma’n gyfle i fwynhau rhai o’r gweithiau gorau o wyliau ffilm cryndo amgylchynol mwyaf nodedig y byd. Bydd hefyd yn gyfle i ddathlu’r gelfyddyd a’r arloesedd technolegol sy’n diffinio’r cyfrwng trochol hynod yma.
Mae Seremoni Gwobrau Best of Earth Fulldome yn fenter ar y cyd rhwng rhai o wyliau amlycaf y diwydiant, gan gynnwys:
FullDome Festival (Jena, Yr Almaen)
Dome Fest West (Los Angeles, UDA)
Gŵyl FulldomeUK
Gŵyl Dome Under (Melbourne, Awstralia)
SAT Fest (Montréal, Canada)
Fulldome Festival Brno (Brno, Tsiecia)
Mae tocynnau i’r Seremoni Wobrwyo ar gael AM DDIM YMA
Ble: Labordy CULTVR
Pryd: 25 Mawrth 2025
Amser: 20:00 (GMT) – bydd y seremoni’n para am tua 1 awr