Bydd y cerddor amryddawn o Gaerdydd, Lily Beau, yn dod â’i cherddoriaeth llawn enaid i CULTVR ar 28 Mawrth ar gyfer perfformiad trochol byw arbennig.
Mae cerddoriaeth Lily’n plethu pop, gwerin a dull storïol llawn enaid gan archwilio themâu am gariad, hunan-ddarganfyddiad a thwf personol. Mae hi wedi gwneud ei marc yn barod ar y sîn cerddorol yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig ac mae traciau ganddi wedi cael eu chwarae ar BBC Introducing a’u cynnwys ar Restr Chwarae Cymraeg ‘A’ Radio Wales.
Mae gan Lily wreiddiau Gwyddelig- Jamaicaidd. Tyfodd i fyny i gyfeiliant recordiau jazz, a dechreuodd sgwennu ei chaneuon ei hun pan oedd ond yn 12 oed. Mae Lily wedi perfformio mewn nifer o ganolfannau eiconig fel Stadiwm Dinas Caerdydd a’r Royal Festival Hall ac wedi cefnogi artistiaid fel Jack Savoretti, Joel Culpepper a Mace the Great. Mae uchafbwyntiau ei gyrfa hyd yma’n cynnwys perfformio ar raglen ‘Tony Visconti’s Unsigned Heros’ ar Sky Arts, ochr yn ochr â cherddorion chwedlonol fel Bob Geldof, Imelda May a Stewart Copeland yn yr Union Chapel yn Llundain. Yn ddiweddar, cafodd sylw gan BBC 1Xtra a roddodd wahoddiad iddi berfformio yn Maida Vale fel rhan o fenter ‘R&B Cypher’.
Bydd 4Pi Productions yn cynhyrchu elfennau gweledol y perfformiad trochol yma, ac mae’r digwyddiad yn cael ei gefnogi gan Cymru Greadigol. Byddwn yn cyhoeddi manylion yr artist sy’n cefnogi Lily yn fuan.
28 Mawrth 2025
Drysau’n agor: 7:30pm
Artist sy’n cefnogi: 8:30pm
Lily Beau: 9pm
Gorffen: 10:30pm
Mae hwn yn ddigwyddiad 14+.
Tocynnau ymlaen llaw: £14.50
Tocynnau ar y noson: £18.50
Noson agos-atoch gyda Lily Beau
TOCYNNAU - £14.50 - £18.50