CULTVR YNG NGHANADA
Yr wythnos ddiwethaf roedden ni yng Nghanada yn rhoi cyflwyniad am waith CULTVR fel rhan o ŵyl Imersa Montreal.
Yn ogystal, buon ni yn y Society of Arts and Technology ym Montreal i fwynhau perfformiad byw o ‘Entangled Structures’ gan Monocolor a grewyd yn wreiddiol fel rhan o’n rhaglen Catalydd 360˚ dan nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru.
Wythnos nesa byddwn ni yng ngŵyl FDUK 2023 lle bydd cyfle i gynulleidfaoedd fwynhau perfformiad byw o ‘Arka Kniari’.