CULTVR YN SXSW
Wythnos nesa byddwn ni’n teithio i Austin i gymryd rhan yn SXSW am y drydedd flwyddyn o’r bron. Eleni, rydyn ni’n trefnu digwyddiad Immersive Screens Meet Up ar y cyd â Live Cinema UK.
Mawrth 14, 2023 / 2.30pm – 3.30pm CT
Hilton Austin Downtown / Ystafell 406
P’un a ydych eisoes yn gweithio gydag unrhyw fath o sgriniau trochol, neu â diddordeb yn y potensial sydd ganddynt i gyfoethogi eich sioeau arddangos neu i gynnig dull amgen o weithio ar brosiectau Realiti Rhithwir (VR), os ydych chi yn Austin dewch draw i gymryd rhan yn y sesiwn rwydweithio yma.
Diolch i Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru am ein cefnogi.