Skip to content

YMCHWIL A DATBLYGU

Rydyn ni’n cefnogi Ymchwil a Datblygu ac yn hybu creu a chyflwyno profiadau diwylliannol a rennir.

Mae CULTVR yn croesawu a hyrwyddo mentrau cydweithio ar draws amrywiaeth eang o arferion artistig a gwyddonol. Ein nod yw hybu cyfleoedd Ymchwil a Datblygu sy’n sbarduno dulliau beiddgar ac arloesol o gyflwyno profiadau Realiti Ymestynnol.

Dan ofal tîm medrus o weithwyr creadigol a thechnegwyr, mae’r Labordy yn darparu man arbrofi i academyddion, artistiaid ac ymarferwyr feithrin a phrofi technegau trochol a thechnolegau newydd mewn amgylchedd agored a chefnogol.

Mae ein gweithgareddau’n amrywio o gydweithio gyda phrifysgolion a cholegau, cwricwla pynciau STEAM a sefydliadau celfyddydau perfformio sydd â diddordeb mewn plethu’r ffiniau rhwng y byd ffisegol a’r byd digidol.