Skip to content

BUBBLEWRAP COLLECTIVE

 

Label recordiau annibynnol

Dechreuodd menter gydweithredol Bubblewrap ‘nôl yn 2009. Syniad syml a didwyll. Ein nod: Rhyddhau cerddoriaeth dda. Amcan go sylfaenol. Mae’r ethos yna dal yn wir heddiw. Ond, mae ambell beth wedi newid ers diwedd y ‘00au. Rydyn ni wedi croesawu artistiaid newydd i’r label. Wedi ffarwelio â rhai hefyd. Ond, yn gynyddol, rydyn ni ar genhadaeth i gynhyrchu gwrthrychau i danio eich dyhead clywedol. Lle bo’n bosib, rydyn ni’n creu a gwasgu recordiau finyl; ond ein nod bob tro yw cynhyrchu a rhyddhau pethau sy’n edrych, swnio, teimlo, arogli a….blasu, yn hollol fendigedig.

Wedi dweud hynny, dyn ni ddim wedi anwybyddu twf ac esblygiad technoleg ddigidol a lawrlwytho. Mae popeth ‘dyn ni’n ei ryddhau ar gael yn ddigidol hefyd. Ond hyd yn oed pan fyddwn yn rhyddhau albwm neu EP i’w lawrlwytho’n unig rydyn ni’n gwarantu’n ddi-flewyn-ar-dafod ein bod yn gwneud popeth y gallwn i sicrhau ei fod mor arbennig ag y gall fod. Ac y bydd yn ddarn o gelf i chi ei drysori.

www.bubblewrapcollective.co.uk