Skip to content

BLACK MANTIS

 

Black Mantis
Cyd-gynhyrchiad gyda 4Pi Productions & Deri Roberts – Perfformiad Trochol Byw.

‘Devil’s Flower’ gan Black Mantis yw prosiect newydd y cynhyrchydd o Dde Cymru, Deri Roberts. Yn seiliedig ar ei albwm diweddaraf, ‘Devil’s Flower’, lle mae’n archwilio ei ochr electronig dywyllach drwy gyfuno ei gariad o gerflunwaith sain, electronica a jazz i greu byd sain sy’n newid yn barhaus, mae’r prosiect yma’n plethu hynny gyda sgôr weledol a gynhyrchwyd gan stiwdio greadigol gwobrwyedig 4Pi.

Hyd: 45 Munud
Cynhyrchwyd / Elfennau Gweledol gan: 4Pi
Cynllun Sain: Deri Roberts.
Cerddorion: Deri Roberts (Elfennau electronig byw), Ben Waghorn (Sacsoffon), Mark Sambell (Allweddellau), Jon Goode (Bâs) ac Elliot Bennett: (Drymiau).

Perfformiad Cyntaf: Cryndo CULTVR / Gŵyl Diffusion
Perfformiwyd yn: Fulldome UK, Market Hall, Plymouth