Skip to content

THEATR GRYNDO

 

Ein Theatr Gryndo 12m yw curiad calon Labordy CULTVR, ac mae’n gartref i’r sgrîn fwyaf yng Nghymru! Mae’n ofod hyblyg y gellir ei addasu a’i drefnu ar gyfer amrywiaeth o wahanol weithgareddau fel sgrinio ffilmiau, cynnal cyngherddau, cynadleddau, arddangosfeydd technegol a pherfformiadau byw.

Gall ein tîm cyfeillgar eich helpu i ddatblygu profiad gwirioneddol arloesol a rhoi help i chi gyda phob cam o’ch taith greadigol. Rydyn ni hefyd yn hapus i’ch helpu gyda phrosesau creu cynnwys 360º, llogi offer a chymorth technegol.

OFFER
• Cromen 3D Trochol, 40 troedfedd
• System Daflunio Stereo 4K
• System Sain Amgylchynol 15.1
• Cyfarpar a System(au) goleuo
• Llwyfan
• Cysylltedd â’r Rhyngrwyd (Wi-Fi a chebl cyflymder uchel)
• System microffonau ar gyfer cynadleddau
• Seddi gogwydd, bagiau ffa, byrddau a chadeiriau

ADNODDAU / CYMORTH CYNHYRCHU
 • Gwasanaeth cynhyrchu cynnwys pwrpasol
• Mynediad i’n llyfrgell o adnoddau ‘cryndo amgylchynol’ (fulldome)
• Cynhyrchu/Creu Digwyddiadau
• Peiriannu Sain
• DJ’s a chefnogaeth ar gyfer cyflwyno Cerddoriaeth Fyw
• Gosodweithiau sy’n cynnig profiadau trochol

GWASANAETHAU AR GAEL AR GAIS
• Arlwyo / Gwerthwyr Bwyd
• Offer ar gyfer ffrydio byw