Skip to content

EIN HADNODDAU

LABORDY CULTVR YW’R GANOLFAN GELF DROCHOL GYNTAF O’I MATH YN EWROP SY’N CYNNIG GOFOD TRAWSDDISGYBLAETHOL GYDA FFOCWS CRYF AR GELFYDDYDAU DIGIDOL, PERFFORMIADAU BYW, REALITI YMESTYNNOL (XR) A SINEMA 360º.


Mae gan y Labordy fyrdd o ofodau trochol – gan gynnwys gofodau cryndo stereosgopig 3m a 6m, parth chwarae Realiti Rhithwir, theatr gryndo 12m arbennig o hyblyg gyda system sain amgylchynol 15.1. Mae’r Labordy’n cynnwys gofod cynllun agored mawr gydag oriel y gellir ei addasu ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau artistig gan gynnwys arddangosfeydd, mapio ar gyfer taflunio a stiwdio ffilm gyda sgrin werdd.