Skip to content

CERDDORIAETH FYW

Rydyn ni’n mwynhau cynnig ffyrdd newydd o brofi cerddoriaeth fyw i gynulleidfaoedd.

Mae perfformiadau clyweledol yn rhan gyson o raglen y Labordy – yn gwthio’r ffiniau o ran dangos sut y gall technoleg drochol gynnig dulliau newydd i gynulleidfaoedd brofi cerddoriaeth fyw. Mae hyn wedi cynnwys cyd-gynyrchiadau gyda bandiau ac artistiaid o Gymru fel ‘Juniper’ gan Slowly Rolling Camera a ‘Black Mantis’ gan Deri Roberts.

Mae Sesiynau Byw CULTVR ar gael ar alw ar ein gwefan gyda pherfformiadau byw wedi’u hamgylchu â ffilmiau 360º trochol.