YR AMGYLCHEDD
Rydyn ni’n poeni’n fawr am yr amgylchedd ac yn ymroi i leihau ein hôl-troed carbon.
Rydyn ni’n poeni’n fawr am ddyfodol y blaned ac yn ymroi i roi arferion gorau ar waith i leihau ein heffaith amgylcheddol. Rydyn ni hefyd yn ymroi i greu a hybu gwaith sy’n ysgogi newid cadarnhaol a chynyddu ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud a’r hinsawdd a phryderon ecolegol.
Rydyn ni’n ganolfan SMART ac yn defnyddio technoleg i reoli ein defnydd o ynni ar draws holl rannau gwahanol y ganolfan. Mae hynny’n ein helpu i leihau ein ôl-troed carbon a lleihau ein costau ynni hefyd.
Mae gyda ni baneli solar ar ein to ac rydyn ni’n defnyddio ynni adnewyddadwy lle y gallwn. Ond mae mwy y gallwn ni i gyd ei wneud, ac felly byddwn yn cadw i fonitro ein Polisi Amgylcheddol a newid ein ffordd o weithredu i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd.
Rydyn ni wedi gwneud ein gorau i adeiladu cymaint o elfennau o’n canolfan ag sydd wedi bod yn bosibl ein hunain (o ddodrefn i fannau gwaith). Rydyn ni wedi ailddefnyddio, ailgylchu ac addasu deunydd y gwnaethom eu ffeindio lle bynnag yr oedd hynny’n bosib, a gwneud yn siŵr ein bod yn cael gafael ar ddeunyddiau eraill mor agos ag sy’n bosib/ymarferol i gartref – i leihau defnydd di-angen o drafnidiaeth.
