Skip to content

DAWNS

Mae’r Labordy yn cynnig cynfas newydd i goreograffi blaengar gan asio technoleg a’r corff dynol.

Mae Dawns yn rhan annatod o raglen CULTVR ac rydym wedi partneru gyda rhai o gwmnïau, coreograffwyr a dawnswyr mwyaf talentog Cymru i greu a chyflwyno gwaith. Ymysg yr uchafbwyntiau mae ‘Liminality’ – cyd-gynhyrchiad rhyngwladol rhwng 4Pi Productions a’r Society for Arts and Technology (SAT) ym Montreal a gomisiynwyd fel rhan o Flwyddyn Diwylliant India a’r Deyrnas Unedig. Cafodd ei ddatblygu’n benodol ar gyfer theatr cryndo a chafodd ei ddangos am y tro cyntaf mewn preswyliad pythefnos ym Montreal.

Mae cwmnïau gwadd wedi cynnwys: Richard Chapelle / Infinite Ways Home; Ballet Cymru / ‘Poems and Tiger Eggs’; Kitsch & Sync / DECADE DANCE; Dance Blast / ReKindle; Jack Philp / Opto Nano.